SL(5)225 – Rheoliadau Addysg (Benthyciadau at Radd Ddoethurol Ôl-raddedig) (Cymru) 2018
Cefndir a Diben
Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth benthyciad i fyfyrwyr cymwys sy’n dilyn cyrsiau gradd doethurol ôl-raddedig dynodedig sydd ar neu ar ôl 1 Awst 2018. Mae’r Rheoliadau’n nodi:
- y gofynion cymhwyster ar gyfer cymorth benthyciad;
- beth yw cwrs "dynodedig";
- y camau ffurfiol sy’n ymwneud â gwneud cais am fenthyciad;
- manylion y symiau a thalu benthyciadau;
- manylion ynghylch benthyciadau i garcharorion cymwys; a
- gofynion o ran gwybodaeth
Y weithdrefn
Negyddol.
Materion technegol: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheolau Sefydlog 21.2(x): Ei bod yn ymddangos bod oedi na ellir ei gyfiawnhau wedi bod wrth eu cyhoeddi neu wrth eu gosod gerbron y Cynulliad.
Gwnaed y Rheoliadau ar 23 Mai 2018 ond ni chawsant eu gosod tan 1 Mehefin 2018, sy’n oedi o 9 diwrnod. Gofynnir i’r Llywodraeth ddarparu unrhyw gyfiawnhad dros yr oedi 9 diwrnod cyn gosod y Rheoliadau hyn ar ôl iddynt gael eu gwneud.
Rhinweddau: craffu
Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) - ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.
Mae rheoliad 3(3)(a) yn dweud nad yw person yn gymwys am fenthyciad ar gyfer Gradd Ddoethurol Ôl-raddedig os yw wedi cyrraedd 60 mlwydd oed ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae’r cwrs yn dechrau.
Mae’r Pwyllgor yn codi’r pryder a ganlyn, sy’n ymwneud â hawliau dynol, mewn perthynas â’r terfyn oedran hwn.
Mae Erthygl 2 o Brotocol 1 y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol (y Confensiwn) yn cynnwys hawl gyffredinol i addysg.
Mae Erthygl 14 y Confensiwn yn darparu y bydd yr hawliau a’r rhyddfreiniau a nodir yn y Confensiwn yn cael eu sicrhau yn ddiwahân, heb wahaniaethu ar sawl sail amrywiol a ddiogelir, gan gynnwys oedran.[1]
Mae’r Pwyllgor o’r farn bod y materion a godwyd gan reoliad 3(3)(a) yn berthnasol i’r hawl i addysg. Mae gosod terfyn oedran uchaf o 60 yn wahaniaethol. Felly, mae’n angenrheidiol edrych a oes cyfiawnhad dros y terfyn oedran uchaf. Os gellir ei gyfiawnhau, nid yw’n achos o wahaniaethu ac nid yw’n groes i’r Confensiwn. Mae’r Goruchaf Lys yn gosod prawf pedwar cam[2]:
a) A oes nod cyfreithlon i’r cam sy’n ddigonol i gyfiawnhau cyfyngiad ar hawl sylfaenol?
b) A yw’r cam wedi’i gysylltu yn rhesymegol â’r nod hwnnw?
c) A ellid defnyddio cam llai ymwthiol?
d) A geir cydbwysedd teg?
Mae’r Memorandwm Esboniad ôl yn rhoi cyfiawnhad dros osod cyfyngiad oedran o’r fath ar y sail mai:
a) Nod y cynllun yw cynyddu sgiliau lefel uchel ar gyfer yr economi yng nghyd-destun adnoddau cyfyngedig. Mae’r Llywodraeth yn datgan, er mwyn sicrhau gwerth am arian, bod angen cyllid cynaliadwy a bod terfyn oedran o 60 yn lliniaru’r risg y caiff benthyciadau anghymesur eu cymryd gan fyfyrwyr hŷn a fydd yn annhebygol o ad-dalu swm y benthyciad yn llawn neu wneud ad-daliadau sylweddol, ac y byddai ganddynt nifer cyfyngedig o flynyddoedd gwaith lle byddai eu sgiliau ar gael i’r economi. Mae’r Memorandwm Esboniadol yn nodi canfyddiadau dadansoddiadau y mae’r Llywodraeth wedi’u gwneud, sy’n ei harwain at y casgliad hwn.
b) Mae angen sicrhau gwerth am arian i’r trethdalwr ac mae’r Llywodraeth o’r farn bod gosod y terfyn oedran yn gysylltiedig yn rhesymol â’r nod.
c) Ystyriwyd y posibilrwydd o nodi cam llai ymwthiol i gyflawni’r nod. Y casgliad oedd y byddai system a oedd yn gofyn am ymchwiliad ac asesiad unigol yn creu baich gweinyddol trwm a allai ddefnyddio adnoddau prin. Gallai system o’r fath hefyd gyflwyno cyfle i wneud penderfyniadau anghyson.
d) Gan ystyried ei thystiolaeth sy’n ymwneud â chyfraddau ad-dalu benthyciadau, ond hefyd y cyfraddau cyflogaeth (nid diben y benthyciad yw hwyluso nifer y myfyrwyr sy’n derbyn cyrsiau gradd doethurol nad oes ganddynt fwriad penodol i ddychwelyd i’r gweithle), mae’r Llywodraeth yn ystyried bod y cyfyngiad oed yn taro cydbwysedd teg, ac y cyfiawnheir y terfyn oedran.
Rydym yn croesawu’r cyfiawnhad a nodir yn y Memorandwm Esboniadol ac mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r cyfiawnhad o osod terfyn oedran uchaf o 60 yn y Rheoliadau hyn.
Y goblygiadau yn sgîl gadael yr Undeb Ewropeaidd
Mae’r gofynion cymhwysedd ar gyfer cyllid myfyrwyr wedi’u drafftio gan ystyried bod y DU yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd. Felly, bydd ambell fyfyriwr o’r UE yn gymwys i gael cymorth o dan y Rheoliadau. Ni ellir cadarnhau ar hyn o bryd pa effaith a gaiff ymadael â’r Undeb Ewropeaidd ar symudedd myfyrwyr.
Ymateb y Llywodraeth
Mae angen ymateb y Llywodraeth i’r pwynt craffu technegol sy’n codi yn yr adroddiad hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
13 Mehefin 2018